PET(4)-06-11 p9a
P-04-320 Polisi Tai Cymdeithasol
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei pholisi tai cymdeithasol mewn perthynas â phoblogaeth frodorol y wlad.
Linc i’r ddeiseb: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=1012
Cynigwyd gan: Adam Brown
Nifer y llofnodion: 45
Gwybodaeth Ategol:
Gyda phroblemau tai parhaus yng Nghymru, mae’r ymgyrch hon yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod y ffaith hon a chymryd camau trwy adolygu’r polisi tai cymdeithasol mor fuan â phosibl. Rydym yn credu bod y polisi presennol yn gwahaniaethu yn erbyn pobl frodorol Cymru ar ystod eang o faterion ac rydym yn credu hefyd y dylai pobl leol gael mynegi barn ynghylch pwy sy’n meddiannu unrhyw lety cymdeithasol gwag yn eu hardaloedd.
Mae ar bobl Cymru wir angen eich help ar y mater hwn a bydd llofnodi’r ddeiseb hon ac annog eraill i’w llofnodi yn mynd yn bell iawn tuag at roi cyfle gwell iddynt allu galw rhywle’n ‘gartref’.